#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

1.       Cyflwyniad

Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith y Cynulliad a Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y DU; yr Alban ac Iwerddon. Mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 28 Mehefin a 12 Gorffennaf, er y cyfeirir at ddigwyddiadau diweddarach lle y mae gwybodaeth ar gael ar adeg y drafftio terfynol.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau cysylltiedig â Brexit y Pwyllgorau.

Dyma sesiynau mwyaf diweddar ymchwiliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol:

§    3 Gorffennaf: Ymwelodd y Pwyllgor â sefydliadau'r UE ym Mrwsel. Gwnaeth y Pwyllgor gyfarfod â chynrychiolwyr o swyddfeydd rhanbarthol Lloegr ym Mrwsel, Ysgrenyddiaeth EFTA, Llywydd ac Is-lywydd Pwyllgor y Rhanbarthau, Aelodau Senedd Ewrop yn y Senedd ei hun gan gynnwys Mairead McGuiness ASE, Danuta Hübner ASE, Guy Verhofstadt ASE, Richard Corbett ASE, a chynrychiolwyr o Senedd Fflandrys gan gynnwys llefarydd y Senedd ac aelodau o'r Pwyllgor Materion Tramor.

§    10 Gorffennaf: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Prif Weinidog. Roedd y sesiwn yn ystyried y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt ynghylch y DU yn ymadael â'r UE a rôl Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau hynny; parodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gwahanol sefyllfeydd a chanlyniadau sy'n deillio o'r trafodaethau, ymatebh y Prif Weinidog i Araith y Frenhines a'r Bil Diddymu. 

Mae gwybodaeth reolaidd am waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i’w gweld ar flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/tag/ue/.

Cyhoeddir blogiau'r Gwasanaeth Ymchwil ar Pigion. Y blogiau diweddaraf ynghylch Brexit yw Diogelu sefyllfa dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU a gwladolion y DU sy’n byw yn yr UE – beth mae’r DU yn ei gynnig?, Diogelu sefyllfa dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU a gwladolion y DU sy’n byw yn yr UE – beth mae’n ei olygu i Gymru?, Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfau newydd a Beth allai Bil y Diddymu Mawr ei olygu i Gymru? Mae Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad wedi rhoi ei farn ar y Papur Gwyn ‘Legislating for Brexit’.

Adroddiadau eraill

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn llunio adroddiad drafft ar ei ymchwiliad i Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, ac mae wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Ddyfodol Polisïau Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal yr ymchwiliad a ganlyn: Sut beth fydd hawliau dynol yng Nghymru yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cyhoeddi datganiad ynghylch Bil Diddymu y DU. Eitem newyddion - Ni ddylid gorfodi telerau cytundeb i adael yr UE ar y gwledydd datganoledig

Mae 'Goblygiadau gadael yr UE ar y gweithlu meddygol' yn rhan benodol o gylch gorchwyl ymchwiliad cyfredol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i recriwtio meddygol.

28 Mehefin: Dadl yn y cyfarfod llawn ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: dyfodol polisiau amaethyddyddol a datblygu gwledig yng Nghymru:

3 Gorffennaf: Clywodd Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dystiolaeth gan y Llywydd ynghylch 'Llais Cryfach i Gymru', a oedd yn cyffwrdd â Brexit.

Llywodraeth Cymru

29 Mehefin: Y Pif Weinidog yn Gibraltar i drafod blaenoriaethau cyffredin mewn perthynas â Brexit.

30 Mehefin: Buddsoddiad o €1.5 miliwn gan yr UE yn helpu cwmni o Gymru i fynd i'r afael â heintiau byd-eang.

Newyddion

4 Gorffennaf: CLA Cymru yn ymateb i'r Adroddiad 'Rural Wales – Time to Meet the Challenge 2025'.

3.       Y wybodaeth ddiweddaraf o'r UE

Y Cyngor Ewropeaidd

1 Gorffennaf: Estonia yn dechrau ar ei harlywyddiaeth 6 mis yng Nghyngor yr Undeb Ewropeaidd.

6 Gorffennaf: Datganiad yn dilyn Uwchgynhadledd yr UE-Japan #24, Brwsel.

6 Gorffennaf: Sylwadau gan y Llywydd Donald Tusk yn y gynhadledd i'r wasg yn uwchgynhadledd yr UE-Japan ym Mrwsel

8 Gorffennaf: Datganiad gan Arweinwyr y G20 - Siapio byd cydgysylltiedig.

11 Gorffennaf: Argymhelliad ar gyfer argymhelliad gan y Cyngor am raglen diwygio cenedlaethol 2017 y DU a darparu barn y Cyngor ynghylch rhaglen cydgyfeirio 2017 y DU.

12 Gorffennaf: Y Cyngor yn cytuno ar ei safle o ran cyllideb 2018 yr UE a chefnogi cynnydd o gyllideb 2017 yr UE.

Y Comisiwn Ewropeaidd

28 Mehefin: Papur yn ystyried dyfodol cyllid yr UE. Erthygl Politico: Commission looks to sacrifice agriculture to plug Brexit budget hole.

29 Mehefin: Cyhoeddodd y Comisiwn ragor o bapurau ar ei safle, a drafodwyd gan y 27 aelod-wladwriaeth ar ôl y Cyngor Ewropeaidd ar 29 Mehefin: Judicial Cooperation in Civil and Commercial Matters; Ongoing Union Judicial and Administrative Procedures; Ongoing Police and Judicial Cooperation in Criminal matters; Issues relating to the Functioning of the Union Institutions, Agencies and Bodies; Governance: Goods placed on the Market under Union law before the withdrawal date.

6 Gorffennaf: Araith gan Michel Barnier ym Mhwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop, siaradodd am oblygiadau bod yn aelod neu beidio bod yn aelod o'r farchnad fewnol neu'r undeb tollau, a 'no deal'.

6 Gorffennaf:: Uwchgynhadledd yr UE-Japan: cymeradwyodd yr arweinwyr gytundebau partneriaeth economaidd a strategol arwyddocaol. Erthygl Politico: EU and Japan hit back at protectionism with trade deal.

6 Gorffennaf: Cyfleoedd pysgota yn 2018 o dan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (yn cau ar 1 Medi)

6 Gorffennaf: Sylwadau gan yr Arlywydd Juncker o'r Comisiwn Ewropeaidd yn ystod sesiwn friffio'r wasg â Donald Tusk, Arlywydd Y Cyngor Ewropeaidd, a Shinzō Abe, Prif Weinidog Japan, ar achlysur uwchgynhadledd yr UE-Japan.

6 Gorffennaf: Yr UE a Japan yn cytuno mewn egwyddor ar Gytundeb Partneriaeth Economaidd.

6 Gorffennaf: Cydymffurfiaeth Aelod-wladwriaethau â chyfraith yr UE: ddim eto'n ddigon da.

7 Gorffennaf: Ymgynghoriad cyhoeddus yn nodi'r heriau ar gyfer Polisi Amaethyddol Cyffredin yn y dyfodol.

8 Gorffennaf: Yr UE a Chanada yn cytuno i osod dyddiad arfaethedig i weithredu'r Cytundeb Economaidd a Masnachol Cynhwysfawr.

11 Gorffennaf: Dyfodol cyllid yr UE: Grŵp Lefel Uchel yn cyhoeddi cynigion i symleiddio mynediad at gyllid yr UE.

12 Gorffennaf: Pwyntiau siarad gan Michel Barnier ar ôl cyfarfod y Coleg, Taflen Ffeithiau 'State of play of Article 50 negotiations'.

13 Gorffennaf: Gwnaeth Michel Barnier gwrdd ag arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, Prif Weinidog yr Alab, Nicola Sturgeon, a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Senedd Ewrop

28 Mehefin: Bwyd organig: cytuno ar reolau newydd ar gyfer labelau'r UE.

30 Mehefin: Rheoli ffiniau: cytundeb gwleidyddol ar system newydd ar gyfer Mynediad-Ymadael.

5 Gorffennaf: Dadl yn y cyfarfod llawn ar flaenoriaethau'r G20 ac Arlywyddiaeth Estonia o'r Cyngor Ewropeaidd.

9 Gorffennaf: “Improve the Brexit offer to EU citizens, or we’ll veto the deal” - Guy Verhofstadt ac arweinwyr y pleidiau.

11 Gorffennaf: 'Airline and airport bosses sound alarm on impact of Brexit to MEPs'.

12 Gorffennaf: Bu ASEau materion cyfansoddiadol yn trafod y trafodaethau Brexit â Guy Verhofstadt.

12 Gorffennaf: Cynllun Môr y Gogledd: sicrhau bod stociau cynaliadwy a diogelwch ar gyfer pysgotwyr.

Newyddion Ewropeaidd

6 Mehefin: Dŵr Cymru yn buddsoddi £250 miliwn i gynhyrchu ynni gwyrdd - wedi'i ariannu'n rhannol gan Fanc Buddsoddi Ewrop

4.       Datblygiadau yn y DU

Llywodraeth y DU

29 Mehefin: Cyfarfodydd y Prif Weinidog gydag arweinwyr yr UE cyn uwchgynhadledd y G20.

30 Mehefin: Siaradopdd Prif Weinidog y DU Theresa May ag arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd Arlene Foster ac arweinydd Sinn Fein Michelle O'Neill ynghylch trafodaethau i adfer Corff Gweithredol.

5 Gorffennaf: Siaradodd Theresa May â Phrif Weinidog Groeg Alexis Tsipras i drafod setliad parhaus Cyprus.

7 Gorffennaf: Cynhaliodd Prif Weinidog y DU Theresa May gyfarfod â Phrif Weinidog yr Eidal Gentiloni i drafod yr argyfwng mudo ym Môr y Canoldir

8 Gorffennaf Uwchdynhadledd y G20 Gorffennaf 2017: Datganiad i'r wasg y Prif Weinidog.

10 Gorffennaf: Cynhaliodd Theresa May a Phrif Weinidog Awstralia Malcolm Turnbull gynhadledd i'r wasg.

10 Gorffennaf: Gweinidogion yn ymgysylltu rhagor â busnesau bach.

13 Gorffennaf: Cyhoeddi Bil y Diddymu Mawr.

 

Tŷ’r Cyffredin

28 Mehefin: Yng Ngogledd Iwerddon, cwestiynau ar Ymadael â'r UE: Rhyddid Symud Pobl ac ar Ymadael â'r UE: Ffiniau.

4 Gorffennaf: Dadl ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cymeradwyo).

6 Gorffennaf: Cwestiynau Llafar ar Fasnach Ryngwladol.

6 Gorffennaf: Arweiniodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol a Llywydd y Bwrdd Masnach (Dr Liam Fox) ddadl ar adael yr Undeb Ewropeaidd a'r Fasnach Ryngwladol.

10 Gorffennaf: Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad am y G20 yn Hamburg, gyda chwestiynau'n dilyn.

Tŷ’r Arglwyddi

28 Mehefin: Cwestiwn Llafar - Amaethyddiaeth: Gweithwyr tramor.

28 Mehefin: Dadl ar y cyfarchiad - Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

3 Gorffennaf: Cwestiwn Llafar - Pysgodfeydd mewndirol.

4 Gorffennaf: Cwestiwn Llafar - Amcanion Brexit.

4 Gorffennaf: Dadl ar yr Adroddiad gan Bwyllgor yr Undeb Ewropeaidd ar Brexit: hawliau wedi'u caffael

6 Gorffennaf: Cwestiwn Llafar - Brexit: Adleoliadau Sefydliadau'r UE

6 Gorffennaf: Darlleniad Cyntaf yr EEA Nationals (Indefinite Leave to Remain) Bill.

10 Gorffennaf: Datganiad am y G20 a Chwestiynau.

30 Mehefin: Prif Weithredwr Gwasanaethau'r Ombwdsmon yn rhoi tystiolaeth ynghylch Amddiffyn Defnyddwyr i Is-Bwyllgor Cyfiawnder yr UE.

6 Gorffennaf: Cydweithrediad amddiffyn a chydweithrediad tramor â'r UE ar ôl ymadael wedi'i archwilio gan Is-Bwyllgor Materion Allanol yr UE.

10 Gorffennaf: Tiriogaethau Tramor yn rhoi tystiolaeth ar y goblygiadau i Bwyllgor yr Undeb Ewropeaidd yn sgil Brexit.

11 Gorffennaf: Lansiodd Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr Undeb Ewropeaidd ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ddiogelwch ynni yn y DU.

11 Gorffennaf: Holwyd David Davis AS ynghylch trafodaethau Brexit gan Bwyllgor yr Undeb Ewropeaidd.

11 Gorffennaf: Rheoleiddwyr yn cynghori ynghylch Brexit a diogelwch hawliau defnyddwyr - Is-Bwyllgor Cyfiawnder yr UE.

12 Gorffennaf: Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Ymwelodd Pwyllgor Dethol yr UE â Brwsel i gwrdd â Michel Barnier a Guy Vehofstadt.

12 Gorffennaf: Ymwelodd Brenin Sbaen, y Brenin Felipe, â Senedd yr DU a chyfarchodd aelodau ddau Dŷ'r Senedd yn Oriel Frenhinol Tŷ'r Arglwyddi.

5.       Smith ar gyfer yr Alban yng Nghymru

Senedd yr Alban

29 Mehefin: Atebodd Ei Ardderchogrwydd Norman Hamilton (Uwch Gomisiwn Malta yn y DU) gwestiynau gan y Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Chysylltiadau Allanol ar ddiwrnod olaf llywyddiaeth Malta ar Gyngor yr Undeb Ewropeaidd.

Llywodraeth yr Alban

10 Gorffennaf: Galw i lais yr Alban gael ei glywed ynghylch Brexit - Yr Ysgrifennydd dros Faterion Allanol yn cwrdd â Llysgenhadon yr UE.

6.       Gogledd Iwerddon

Mae'r Cynulliad wedi cyhoeddi EU Matters: BREXIT Negotiation Focus, sy'n cynnwys crynodeb o safbwyntiau Llywodraeth y DU, y Cyngor Ewropeaidd a Senedd Ewrop yn y trafodaethau perthnasol.

7.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd

Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin

'Environmentally Sustainable Agriculture'

'Security of UK Food Supply'

'Brexit: Agriculture and trade'

'EU State Aid rules and WTO Subsidies Agreement'

Adroddiadau eraill

Living abroad: migration between Britain and the EU8 - Poland, Lithuania, Czech Republic,

Hungary, Slovakia, Slovenia, Estonia and Latvia (y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Living abroad: migration between Britain and Spain (y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

'The Repeal Bill - Legal and Practical Challenges of Implementing Brexit' (Canolfan yr Alban ar Gysylltiadau Ewropeaidd)

Arbenigwr ar Gyfraith Ewrop 'UK has sparked race to the bottom that will strip citizens of their rights' (The Conversation)

'EU citizens proposal: a lawyer examines the detail' (The Conversation)

'What’s now at stake for UK citizens living in the rest of the EU' (The Conversation)

'Fishing and Brexit' (The UK in a changing Europe)

'Taking back control? – withdrawing from the 1964 London Fisheries Convention' (The UK in a changing Europe)

'A hard Irish border is quite possible, a frictionless one is an oxymoron'(Blog Brexit yr LSE)

'When EU laws are repatriated, will all the power go to Westminster?' (Blog Brexit yr LSE)

Cynigion ar gyfer Polisi Rhanbarthol i Gymru ar ôl Brexit – o’r brig i lawr neu o’r gwaelod i fyny? fer polisi rhanbarthol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd (Blog Brexit o Gymru)